top of page

Traddodiadau

Nadolig

 

Yn codi’n gynnar dydd Nadolig, neu aros yn ddigwsg drwy’r nos, byddai plwyfolion Cymru’n mynychu gwasanaeth garolau arbennig o’r enw ‘Plygain’. O le i le, byddai’r amser yn wahanol, rhwng 3:00 a 6:00 fore Nadolig ac fe’i dathlir fel gwasanaeth godiad haul y dyddiau hyn. Weithiau byddai gorymdaith ffaglau’n goleuo’r ffordd ac roedd yn arfer gyffredin i bob un ddod â channwyll i oleuo’r eglwys. Mewn rhai ardaloedd, roedd cystadlaethau addurno canhwyllau ymysg y menywod oedd yn eu gwneud. Wedi llenwi’r eglwys â golau, dechreuai’r canu a chanwyd rhwng 15-30 carol a cappella pedwar rhan, hyd at ddeuddeg pennill yr un, wedi eu dysgu ar gof. Hefyd, byddai unawdau a grwpiau’n canu. Gosodwyd y carolau i donau poblogaidd a hen alawon a chyfansoddwyd y penillion ym mesurau traddodiadol Cymraeg a byddai beirdd lleol yn cyfansoddi geiriau newydd hir ar themâu traddodiadol yn paratoi at y tymor. Gwerthfawrogwyd y carolau hyn ac ymysg rhai teuluoedd, mae’r traddodiad wedi croesawu oherwydd stiwardio hunanol.

 

Yn ystod y nos, er mwyn pasio’r amser, byddai plant yn gwneud triagl ac addurno’r tŷ ag uchelwydd a chelyn. Am ganrifoedd cyn geni Crist, byddai pobl yn rhoi planhigion glas yn eu tŷ dros y gaeaf, yn enwedig planhigion bytholwyrdd, fel atgofion dychweliad y gwanwyn.

 

Dywedir bod addurno’r tŷ ag uchelwydd yn dod yn syth o’i ddefnydd gan Dderwyddon Celtaidd Cymru, sydd yn priodoli priodweddau hudol iddo. Mae rhai pobl yn dweud bod y Derwyddon yn ystyried uchelwydd yn blanhigyn enwedig o bwysig am eni, a dyna esboniad am ei fod yn symbol geni Crist. Hefyd, cysylltir arfer cusanu o dan uchelwydd â’r Derwyddon ac roedd yn rhan o ddefod ffrwythlondeb. Fel llawer o hen draddodiadau, anghofid symbolaeth wreiddiol uchelwydd ond yr arfer, yn lle ei ddiffiniad, sydd wedi dod yn draddodiad.

 

Heddiw, mae sbrigyn o uchelwydd yn ystod y gwyliau Nadolig yn symbol o lwc a ffyniant. Mae rhai yn gadael yr uchelwydd i fyny tan y Nadolig nesaf ac yn rhoi’r hen sbrigyn i’r tân. Mae arlliw euraidd yr uchelwydd wrth iddo sychu wedi ennill ei ail enw barddol ‘y gainc euraidd’.

 

Ystyriwyd uchelwydd yn amddiffyniad rhag drygioni. Symbol bywyd tragwyddol oedd celyn ac ymddangoswyd ar bwys yr uchelwydd, rhosmari, a deilen llawryf. Helpon nhw i guddio aroglau anhyfryd a fyddai ar ôl misoedd o ffenestri a drysau ar gau. Yn dawnsio a chanu o’u tanynt, treuliodd pobl Noswyl Nadolig gyda’u cymdogion cyn mynd i’r eglwys gyda’i gilydd.

 

Croesawodd yr arfer yn llefydd gwledig, ac oherwydd ei harddwch a symlrwydd, mae’n cael ei adfywio mewn sawl ardal. Weithiau, daeth y gwasanaethau i’w pen pan gyrhaeddodd grwpiau o ddynion wedi meddwi ac achosi trafferth. Fel arfer, diwedd y gwasanaeth oedd dechrau diwrnod gwledda ar gaws pob, gwŷdd, llysiau a diodydd.

 

 

Dydd San Steffan

 

Fel yn rhannau eraill Prydain, roedd Gŵyl San Steffan yn bwysig iawn. Byddai pobl yn curo breichiau neu goesau’r gweision benywaidd â changen uchelwydd tan iddyn nhw waedu. Yn rhai llefydd, roedd yn arfer curo pwy bynnag oedd yr olaf i godi â chelyn a gwneud iddyn nhw wneud pethau drwy’r dydd. Ar sawl fferm, byddai ceffylau ac anifeiliaid yn cael eu gwaedu fel arfer oedd i fod yn dda i iechyd yr anifail, ac yn cynyddu eu dyfalbarhad.

 

Diolch byth am yr anifeiliaid, y gweision a’r rhai sydd yn codi’n hwyr, daeth yr arferion hyn i’w pen cyn diwedd y 19eg canrif.

 

 

Nos Galan / Dydd Calan

 

O gwmpas Dydd Calan, mae nifer o draddodiadau. Roedd rhaid talu bob dyled, ac roedd yn anlwcus iawn i roi benthyg unrhyw beth Ddydd Calan, hyd yn oed cannwyll. Sut bihafiodd rhywun ar y diwrnod hwn oedd sut y bydden nhw’n bihafio am weddill y flwyddyn. Er enghraifft, os cododd rhywun yn gynnar fore Calan, bydden nhw’n codi’n gynnar am weddill y flwyddyn.

 

Roedd pobl yn arfer credu y byddai lwc dda neu ddrwg yn cyrraedd y tŷ â pherson cyntaf i ddod i mewn. Mewn rhai llefydd, roedd hi’n anlwcus i ddyn weld menyw’n gyntaf, mewn eraill, roedd hi’n anlwcus i fenyw weld dyn yn gyntaf. Roedd yn anlwcus i rywun gan wallt coch ddod i mewn i’r tŷ’n gyntaf ac os oedd menyw’n mynd i mewn i dŷ ei chymydog yn gyntaf, roedd rhaid cael gorymdaith bechgyn bach drwy bob ystafell y tŷ er mwyn torri hud y wrach.

 

Arfer mwyaf poblogaidd Nos Galan a Dydd Calan oedd Calennig. Byddai grwpiau o blant yn ymweld â thai’r ardal yn cario sbrigyn a chwpanaid o ddŵr ac ysgeintio’r dŵr dros wynebau pobl ar gyfer Calennig, fel arfer darn arian. Bydden nhw’n canu caneuon Calan ar yr un pryd i ddathlu’r flwyddyn newydd. Gwnaethon nhw hyn drwy’r bore, ond roedd yn anlwcus iawn i’w wneud ar ôl hanner dydd. Byddai rhai pobl yn cario oren neu afal â sbrigynnau celyn neu rawn ynddynt. Yn hwyrach daeth yr offrwm hwn yn foethus iawn, â rhesins, cnau barfog a rhubanau lliwgar ynddynt ac o’u cwmpas. Croesawodd yr arfer tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

 

Mae sawl traddodiad arall cysylltiedig â Nos Galan, ac yn enwedig Nos Ystwyll, yn rhannu themâu tebyg. Roedden nhw’n gysylltiedig â gwyliau cynhaeaf amser cynt, ond daethon nhw’n ardystiad hwyl o gymuned. Roedd amrywiaeth lleol yn gyffredin ond roedd tair elfen bwysig ym mhob un: gwasaela, arferion y drwy a’r Fari Lwyd. Mae’r tair elfen i gyd yn arferion cyfnewid canu a lletygarwch.

 

Gwasaela

 

Aeth pobl o gwmpas eu pentrefi ac ardaloedd yn canu.

Byddai’r ddefod, gwisg a chelfi oedd yn cyd-fynd â nhw’n dibynnu ar leoliad a thraddodiad. Daeth y traddodiad o hen arfer cychwyn y gwanwyn ac yn ogystal â phowlen hud, byddai rhai’n defnyddio gwrthrych o’r enw ‘Perllan’, bwrdd bach, â chylchau yn y canol a rig pren ar bob un o’r pedwar ongl. Roedd afal ym mhob cornel y bwrdd ac aderyn bach mewn coeden yng nghanol y cylch. Roedd powliau canu moethus yn dilyn yr un thema.

 

Hela’r Dryw

 

Aderyn sanctaidd i’r Derwyddon oedd y Dryw a thraddodiad oedd ei hela a’i roi mewn cell fach wedi’i haddurno â rhubanau. Byddai hon yn cael ei chario o gwmpas gan ddau neu dri o bobl a fyddai’n canu penillion arbennig ar gyfer ‘Rheolwyr yr Adar’ wrth iddynt dynnu’u plu a’u rhoi i gartrefi ar eu ffordd er mwyn amddiffyn rhag y Gaeaf a chael gwared ar unrhyw ddrygioni oedd yn y tŷ o’r flwyddyn gynt.

 

Y Fari Lwyd

 

Yr arfer mwyaf poblogaidd a groesawa yw traddodiad y Fari Lwyd. Penglog geffyl â chlustiau a llygaid ffug, wedi ei haddurno a rhubanau a chlychau a brethyn lliwgar ar dop polyn â dyn yn ei chario o dan gynfas gwyn yw’r Fari Lwyd. Mae ceg y Fari Lwyd yn agor a chau â cholyn a bagal sydd yn cael ei reoli gan bwy bynnag sydd o dan y cynfas. Cafodd hi ei chario o gwmpas y pentref neu’r ardal gan grŵp o bobl eraill, yn cynnwys penadur, gwas stabl, y cadi, a’r gefeilion du eu hwynebau ac amrywiaeth o gymeriadau eraill.

 

Bydden nhw’n cerdded y strydoedd yn ceisio cael mynediad i’r tai. Er mwyn ennill mynediad i dŷ, roedd yn rhaid iddynt ennill cystadleuaeth Penillion. Bydden nhw’n canu pennill ac roedd rhaid i bobl y tŷ ymateb a phennill ei hunain ac yn y blaen. Yr un nad oedd yn gallu meddwl am bennill fel ateb a gollodd. Os collodd grŵp y Fari Lwyd, roedd rhaid iddynt symud ymlaen. Os collodd pobl y tŷ, roedd y Fari Lwyd a’i chriw yn cael mynd i mewn i’r tŷ. Bydden nhw’n bwyta ac yfed a byddai’r Fari Lwyd yn gwneud drwg fel helfa o gwmpas ar ôl merched neu frathu pobl. Ar ôl sbel, byddai’r parti’n symud ymlaen, weithiau gyda phobl y tŷ a gwneud yr un peth yn y tŷ nesaf. Byddai hyn yn mynd ymlaen drwy’r dydd a thrwy hyn, byddai’r Fari Lwyd yn dod â lwc dda am y flwyddyn nesaf a mynd â hen diafoliaid o’r tŷ.

 

 

Nos Ystwyll

 

Roedd bob un o’r ddeuddeg dydd ar ôl Nadolig yn cynrychioli mis gwahanol y flwyddyn, a chymerodd pawb sylw o’r tywydd er mwyn rhagweld tywydd y flwyddyn nesaf.

 

Daeth popeth i’w ben ar Nos Ystwyll, pan dynnwyd ar addurniadau a llosgwyd y celyn a’r uchelwydd (os nad oeddech chi’n ei gadw tan y Nadolig nesaf). Tynnwyd y Boncyff Nadolig o’r tân a rhoddwyd ei ludw i’w cadw ar gyfer y gwanwyn er mwyn sicrhau cynhaeaf da.

 

 

 

Diflannodd llawer o’r hen arferion yma ond maen nhw wedi cael eu hadfywio ledled Cymru dros y blynyddoedd diweddar.

bottom of page